Darllen a Deall gyda Sam
Prynu'r Pecyn
75 Llyfr a Ffolder Adnoddau
£150.00
neu
Disgrifiad
Bwriad ‘Darllen a Deall gyda Sam’ yw dysgu plant ifanc sut i ddarllen a chodi gwybodaeth o destunau cyfres o 15 o storïau syml. Darparwyd y gyfres, yn benodol, ar gyfer plant Blwyddyn 2 a rhai plant ym Mlwyddyn 3.
Prif nodweddion y gyfres yw fod
-
cwestiynau parod wedi eu llunio ar gyfer pob stori a’r cyfan yn debyg i’r rhai a geir yn y Profion Darllen Cenedlaethol
-
cynnwys y storïau wedi eu graddio’n fanwl
-
yr eirfa wedi ei dewis yn ofalus er mwyn galluogi plant i ddefnyddio strategaethau darllen yn effeithiol
-
nifer y geiriau a’r cwestiynau sydd ym mhob stori yn cynyddu fel mae’r gyfres yn mynd yn ei blaen
Trwy ddefnyddio'r gyfres hon byddwch yn helpu i feithrin a gwella sgiliau darllen a deall plant.
Yn ychwanegol i’r llyfrau mae adnoddau gwerthfawr, canllawiau a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio'r gyfres a'r pecyn cyfan, ar gael mewn ffolder, ac yn ddigidol ar ein gwefan.

Dechrau'r Llyfrau
Ar ddechrau pob stori mae adran sy’n rhoi cyfle i’r plant ymarfer strategaethau darllen. Mae cyfle i ddysgu darllen a deall ystyr geiriau hir ac anodd, cyn iddynt ddod ar eu traws yn y testun.
Y Storïau
Mae’r storïau wedi eu rhannu yn dair rhan er mwyn galluogi’r plant i ganolbwyntio ar y manylion sydd yn y testun. Mae cyfle i'r plant ymateb i'r hyn a ddarllenwyd yn bwyllog o fewn sesiynau darllen dyddiol.

Diwedd y Llyfrau
Ar ddiwedd pob stori mae adran fechan sy’n rhoi cyfle i’r plant drafod a meithrin eu sgiliau llafar. Gallwch ymarfer defnyddio patrymau brawddegol syml a rhoi cyfle i'r plant gysylltu eu profiadau personol â’r digwyddiadau yn y storïau.
Y Ffolder Adnoddau
Mae adnoddau ychwanegol i atgyfnerthu’r dysgu y tu mewn i’r pecyn hwn. Hefyd, gallwch lawrlwytho adnoddau sy’n cyd-fynd â’r gyfres oddi ar ein gwefan.
Cyngor a Chanllawiau
Cyfarwyddiadau sy'n rhoi arweiniad ar sut i ddefnyddio'r gyfres ddarllen â'r adnoddau sydd yn cyd-fynd â hi.
Cardiau Fflach
Mae'r cardiau fflach hyn yn galluogi i'r plant ymarfer nifer o strategaethau a dulliau darllen cychwynnol.
Papurau Asesu
Dyma gwestiynau ychwanegol ar destunau’r storïau. Gall y plant roi tro ar eu hateb yn annibynnol.
Cwblhau Brawddegau
Casgliad o frawddegau sydd angen eu cwblhau. Gall y plant ddewis un gair o bedwar cynnig i lenwi'r bwlch.
Gwybodaeth Ychwanegol
ISBN
978-1-908450-19-7
Cyhoeddwyr
Hedyn Cyf
Cyhoeddwyr
Hedyn Cyf
Iaith
Cymraeg
Darluniau
Darluniau lliw trwy'r gyfres
Y Pecyn
473mm x 224mm x 70mm / 5.2Kg
Llyfrau
145mm x210mm(A5) / 12 Tualen
Y Pecyn
300mm x 215mm x 20mm / 192 Tudalen