top of page

Hafan > Dysgu Darllen gyda Sam > Dysgu Darllen Pecyn 1

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 1

Llyfrau 1 i 5 a Chanllaw i Rieni 1

£14.99

Cludiant DU am Ddim ar Archebion Dros £30!
Cludiant Safonol am Dim Ond £3.95

Disgrifiad

Mae pecyn 1 yn cynnig man cychwyn i blentyn wrth iddo/iddi ddechrau dysgu darllen.

Mae'r llyfrau yn y pecyn yn cyflwyno straeon ar eu ffurf symlaf posib. Mae'r geiriau yn hawdd i'w darllen ac maent wedi eu dewis yn ofalus. Cyflwynir y cymeriadau trwy gyfrwng geiriau a brawddegau syml, sydd yn ddealladwy i blentyn bach. Mae llawer o ailadrodd geiriau a phatrymau brawddeg yn y llyfrau. Diben hyn yw rhoi cyfle i ddechrau ymarfer sgiliau cynnar darllen.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys Canllaw i Rieni. Llyfryn yw hwn sy'n egluro rhai o egwyddorion dysgu darllen ac sy’n cynnig awgrymiadau ar sut y gallwch chi helpu plentyn i feistroli un o fedrau mwyaf arbennig bywyd.

Mae'r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am ddarllen gyda’ch plentyn, llythrennau’r wyddor, dulliau o ddysgu llythrennau a sut i ddarllen geiriau unsill. Hefyd, ar ddiwedd y llyfryn mae adran arbennig i rieni di-gymraeg a chyfieithiadau o’r pum llyfr stori sydd ym mhecyn 1.

Cynnwys  Pecyn 1

Llyfr 1 - Sam a Non
Llyfr 2 - Ble mae Pawb?
Llyfr 3 - Sam yn y Siop
Llyfr 4 - Pel Sam
Llyfr 5 - Gem Sam
Canllaw i Rieni 1

Y Llyfrau Darllen

DDGS-Pecyn-1LlyfrDarllen_1.png

Ar ddiwedd pob llyfr mae tudalen sydd yn cynnwys yr eirfa yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall hyn fod yn fuddiol i unrhyw un sydd angen ychydig o gymorth i ddeall y testun.

Mae’r lluniau yn lliwgar, yn chwareus ac yn syml ac mae pwrpas penodol iddynt. Gall plentyn eu cysylltu â'r geiriau a'r brawddegau sydd ar y dudalen i'w helpu i wneud synnwyr ohonynt. 

Mae'r ffont sy’n cael ei ddefnyddio yn ein llyfrau wedi ei ddewis yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn eglur ac yn addas ar gyfer plentyn bach sy’n dysgu darllen.

Ar dudalen ôl y llyfrau mae tystysgrif i’w dorri allan a’i roi i’r darllenwr. Bydd hyn yn rhoi teimlad o lwyddiant i’r plentyn ac yn ei annog i ddal ati.

DDGS-Pecyn-1Gallery_18.png

Canllaw i Rieni 1

Mae’r llyfryn hwn yn cynnig ychydig o awgrymiadau a gwybodaeth ar sut y gallwch chi, fel oedolyn, helpu eich plentyn i ddysgu darllen.

Mae’n dechrau gyda’r camau cyntaf sydd angen ei cymryd, sef dysgu adnabod llythrennau, adeiladu ac adnabod geiriau syml, cyffredin mewn brawddegau.

Hefyd, mae’n cyflwyno ac yn egluro rhai o’r medrau darllen cychwynnol sydd angen eu hymarfer a’u meistroli er mwyn dod yn ddarllenwr rhugl.

Rhieni di-gymraeg

Gall helpu eich plentyn i ddarllen iaith nad ydych chi'n gyfarwydd â hi fod yn anodd, ond nid yw'n amhosib. Mae ymwneud rhiant â'r plentyn yn rhan bwysig o'i lwyddiant.

Mae'r adran hon wedi'i ysgrifennu yn Saesneg yn unig ac mae'n cynnwys gwybodaeth am gamau syml y gall rhiant di-gymraeg eu cymryd i gefnogi a datblygu sgiliau darllen Cymraeg plentyn. Mae’r wybodaeth a’r awgrymiadau yn cynnwys, cyngor ar sut i gyflwyno plentyn i'r Gymraeg, sut i ynganu synau llythrennau a disgrifiad o’r dulliau i’w defnyddio wrth ddarllen.

Cyfieithiadau 

Pwrpas yr adran hon yw cynnig cyfle i rieni di-gymraeg ddeall yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn ein llyfrau Dysgu Darllen gyda Sam.

Mae’r cyfieithiadau Saesneg yn eu galluogi i ddilyn yr hyn sy'n cael ei ddarllen, ac yn eu galluogi i annog y plentyn i ddyfalbarhau a llwyddo.

DDGS-Pecyn-1Rhieni-di-gymraeg.png
DDGS-Pecyn-1Cyfieithiadau.png
DDGS-Pecyn-1Cynnwys-Canllaw-1.png

Oriel luniau

Gwybodaeth Ychwanegol

ISBN

978-1-908450-00-5

 

Cyhoeddwyr

Hedyn Cyf

Awdur

Carolyn Tudur

 

Iaith

Cymraeg

Fformat
Clawr meddal

 

Darluniau

Darluniau lliw trwy'r gyfres

Llyfrau

140mm x 125mm / 40 Tualen

 

Y Pecyn

285mm x 130mm x 13mm / 385g

Cynnyrch Cysylltiedig

Artboard 1 copy 9.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 2

£14.99

Artboard 1 copy 6.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 3

£14.99

Adnoddau Pecyn 3.png

Pecyn Adnoddau
Dysgu Darllen

£6.95

Adnoddau Pecyn 1.png

Adnoddau Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 1

£4.95

bottom of page