top of page

Hafan > Dysgu Darllen gyda Sam > Dysgu Darllen Pecyn 2

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 2

Llyfrau 6 i 10 a Chanllaw i Rieni 2

£14.99

Cludiant DU am Ddim ar Archebion Dros £30!
Cludiant Safonol am Dim Ond £3.95

Disgrifiad

Mae’r pecyn hwn yn ymestyn y medrau a gyflwynir ym mhecyn 1 ac yn adeiladu arnynt. Mae’n mynd ati i ddatblygu medrau cynnar trwy gyfres o straeon sy’n dod â’r cymeriadau’n fyw trwy gyfrwng lluniau a brawddegau syml. Unwaith eto mae llawer iawn o ailadrodd a chaiff plentyn gyfle i ganfod ystyr mewn geiriau cyffredin a brawddegau hawdd.

Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys Canllaw i Rieni. Llyfryn yw hwn sy'n egluro rhai o egwyddorion dysgu darllen ac sy’n cynnig awgrymiadau ar sut y gallwch chi helpu plentyn i feistroli un o fedrau mwyaf arbennig bywyd.

Mae'r llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am bethau sy’n bwysig i’w cofio wrth ddarllen gyda’ch plentyn, ac mae’n adolygu'r dulliau darllen a gyflwynwyd ym mhecyn 1. Hefyd, ceir ynddo eglurhad ar sut i ddysgu darllen geiriau gweledol a sut i ddysgu cyfuno llythrennau mewn geiriau wrth eu darllen. Ar ddiwedd y llyfryn mae adran arbennig i rieni di-gymraeg (yr un peth a Chanllaw i Rieni 1) a chyfieithiadau o’r pum llyfr stori sydd ym mhecyn 2.

Cynnwys  Pecyn 2

Llyfr 6
Llyfr 7
Llyfr 8
Llyfr 9
Llyfr 10
Canllaw i Rieni 2

Y Llyfrau Darllen

Ar ddiwedd pob llyfr mae tudalen sydd yn cynnwys yr eirfa yn y Gymraeg a’r Saesneg. Gall hyn fod yn fuddiol i unrhyw un sydd angen ychydig o gymorth i ddeall y testun.

Mae’r lluniau yn lliwgar, yn chwareus ac yn syml ac mae pwrpas penodol iddynt. Gall plentyn eu cysylltu â'r geiriau a'r brawddegau sydd ar y dudalen i'w helpu i wneud synnwyr ohonynt. 

Mae'r ffont sy’n cael ei ddefnyddio yn ein llyfrau wedi ei ddewis yn ofalus er mwyn sicrhau ei fod yn eglur ac yn addas ar gyfer plentyn bach sy’n dysgu darllen.

DDGS-Pecyn-2Llyfr-Darllen.png

Ar dudalen ôl y llyfrau mae tystysgrif i’w dorri allan a’i roi i’r darllenwr. Bydd hyn yn rhoi teimlad o lwyddiant i’r plentyn ac yn ei annog i ddal ati.

DDGS-Pecyn-2Canllaw_2_main.png

Canllaw i Rieni 2

Mae’r Canllaw i Rieni hwn yn dilyn y llyfryn cyntaf ym mhecyn 1 gydag ychwaneg o wybodaeth ac awgrymiadau sut y gallwch chi helpu'ch plentyn i ddysgu darllen.

Yn y llyfryn cyntaf cafwyd cyflwyniad i rai o’r pethau pwysig y dylid eu hystyried, a disgrifiad o rai o’r medrau darllen mwyaf syml a sylfaenol sy’n angenrheidiol ar gyfer dechrau darllen.

Mae'r llyfryn hwn yn ddilyniant i’r cyntaf gan ei fod yn ymhelaethu ar y medrau darllen cynnar ac yn egluro medrau eraill y mae angen eu hymarfer a’u meistroli ar y cychwyn.

Rhieni di-gymraeg

Gall helpu eich plentyn i ddarllen iaith nad ydych chi'n gyfarwydd â hi fod yn anodd, ond nid yw'n amhosib. Mae ymwneud rhiant â'r plentyn yn rhan bwysig o'i lwyddiant.

Mae'r adran hon wedi'i ysgrifennu yn Saesneg yn unig ac mae'n cynnwys gwybodaeth am gamau syml y gall rhiant di-gymraeg eu cymryd i gefnogi a datblygu sgiliau darllen Cymraeg plentyn. Mae’r wybodaeth a’r awgrymiadau yn cynnwys, cyngor ar sut i gyflwyno plentyn i'r Gymraeg, sut i ynganu synau llythrennau a disgrifiad o’r dulliau i’w defnyddio wrth ddarllen.

Cyfieithiadau 

Pwrpas yr adran hon yw cynnig cyfle i rieni di-gymraeg ddeall yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu yn ein llyfrau Dysgu Darllen gyda Sam.

Mae’r cyfieithiadau Saesneg yn eu galluogi i ddilyn yr hyn sy'n cael ei ddarllen, ac yn eu galluogi i annog y plentyn i ddyfalbarhau a llwyddo.

DDGS-Pecyn-1Rhieni-di-gymraeg.png
DDGS-Pecyn-2Gallery_Pecyn2_19.png
DDGS-Pecyn-2Gallery_Pecyn2_16.png

Oriel luniau

Gwybodaeth Ychwanegol

ISBN

978-1-908450-22-7

 

Cyhoeddwyr

Hedyn Cyf

Awdur

Carolyn Tudur

 

Iaith

Cymraeg

Fformat
Clawr meddal

 

Darluniau

Darluniau lliw trwy'r gyfres

Llyfrau

140mm x 125mm / 40 Tualen

 

Y Pecyn

285mm x 130mm x 13mm / 385g

Cynnyrch Cysylltiedig

Artboard 1 copy 12.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 1

£14.99

Artboard 1 copy 6.png

Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 3

£14.99

Adnoddau Pecyn 3.png

Pecyn Adnoddau
Dysgu Darllen

£6.95

Adnoddau Pecyn 2.png

Adnoddau Dysgu Darllen gyda Sam Pecyn 2

£4.95

bottom of page